Cyllid & Thollau EM

Statws

Newydd - Mae cais newydd am awdurdod cleient wedi cael ei gwblhau, ond heb gael ei gyflwyno eto.

Wedi ei gyflwyno - Mae'r cais am awdurdod cleient wedi cael ei gyflwyno ac wedi bodloni proses wireddu gychwynnol Cyllid a Thollau EM (CThEM). Bydd e' nawr yn ymddangos ar y rhestr 'Nodwch y cod awdurdodi'.

Heb ei gyflwyno - Nid yw eich cais am awdurdod cleient wedi cael ei gyflwyno. Gallai hyn fod oherwydd eich bod wedi ychwanegu mwy na'r uchafswm o gleientiaid a ganiateir ar gyfer un cyflwyniad.

Wedi methu - Mae'r cais am awdurdod cleient wedi methu proses wireddu gychwynnol CThEM. Mae'n bosib bod hyn oherwydd:-

Wedi'i ddiweddaru - Mae'r cais am awdurdod cleient wedi cael ei ddiweddaru yn dilyn methiant i gyflwyno, ac mae'n aros i gael ei ail-gyflwyno.

Disgwyl am y cod - Mae'r cais am awdurdod y cleient yn mynd drwy wiriadau gwireddu pellach cyn y gellir anfon cod.

Cod wedi'i anfon - Anfonwyd llythyr yn cynnwys cod awdurdodi asiant at eich cleient.

Methu ag anfon - Y rheswm mwyaf cyffredin am statws 'methu ag anfon' yw nad yw'r cais wedi bodloni gwiriadau gwireddu pellach CThEM gan nad yw rhai o fanylion y cleient a nodwyd yn cyd-fynd â'r manylion sydd gan CThEM. Dylech wirio'r manylion a nodwyd, yn enwedig y cod post, gyda'ch cleient a'u cynghori i roi gwybod i'w swyddfa dreth am unrhyw newidiadau. Bydd yn rhaid i chi ganiatáu amser i'r manylion hyn gael eu diweddaru cyn y gallwch wneud cais newydd am awdurdod. Fel eithriad, mae'n bosib na fydd gan CThEM gyfeiriad Asiant ar eich cyfer chi. Os mai dyma'r achos, cysylltwch â CThEM er mwyn rhoi eich manylion yna gwnewch gais iddynt ail-anfon y cod awdurdodi.

Cod anghywir - Cafodd y cod awdurdodi ei nodi'n anghywir a bydd yn rhaid i chi wneud cais iddo gael ei ail-anfon. Caiff cod newydd ei anfon at eich cleient a bydd y cod blaenorol yn cael ei ddileu.